Mae iSupport i ofalwyr sy’n oedolion yn y DU yn berthnasol i ofalwyr 18 oed a hŷn sy’n darparu gofal i rywun sy’n byw gyda Chlefyd Alzheimer neu Ddementia Fasgwlaidd.
Mae hwn hefyd ar gael yn Saesneg.
Cyflwyno iSupport i oedolion sy'n gofalu
Gwybodaeth am iSupport i oedolion sy'n gofalu, ar gyfer pwy mae a sut mae wedi cael ei addasu.
Modiwl 1 - Cyflwyniad i ddementia
Mae Modiwl 1 yn rhoi cyflwyniad i beth yw dementia, gan gynnwys beth sy'n digwydd i bobl â dementia a beth i'w wneud os ydych chi'n meddwl bod gan aelod o'ch teulu neu ffrind ddementia.
Modiwl 2 - Bod yn ofalwr
Mae Modiwl 2 yn canolbwyntio ar wella cyfathrebu, gwneud penderfyniadau ar y cyd a chynnwys eraill wrth ofalu am y person sy'n byw gyda dementia.
Modiwl 3 - Gofalu Amdanaf I
Nod Modiwl 3 yw lleihau straen ar ofalwyr trwy neilltuo amser ar gyfer gweithgareddau dymunol a meddwl yn wahanol.
Modiwl 4 - Darparu Gofal Bob Dydd
Mae Modiwl 4 yn canolbwyntio ar fwyta ac yfed, gan gynnwys creu amseroedd bwyd mwy dymunol ac atal problemau iechyd, defnyddio'r toiled a gofal ymataliaeth, a gofal personol.
Modiwl 5 - Delio â Newyddiadau Mewn Ymddygiad
Mae Modiwl 5 yn rhoi cyflwyniad i newidiadau cyffredin mewn ymddygiad ar gyfer pobl â dementia a allai fod yn ofidus i'r person â dementia ac i chi fel y gofalwr. Mae'r symptomau hyn yn cynnwys colli cof, ymddygiad ymosodol, iselder a phryder, anhawster cysgu, rhithdybiau a rhithweledigaethau, ymddygiad ailadroddus, cerdded a mynd ar goll yn ogystal â dyfarniadau gwael neu lai.