Addaswyd iSupport i Bobl Ifanc o fersiwn oedolion iSupport ar gyfer gofalwyr dementia, gyda chydweithrediad gofalwyr ifanc.
Mae’n berthnasol i bobl ifanc 11-17 oed sydd ag aelod o’r teulu neu ffrind sy’n byw gyda dementia. Mae hwn hefyd ar gael yn Saesneg.
Cyflwyno iSupport i Bobl Ifanc
Yn cyflwyno iSupport i Bobl Ifanc, sut y cafodd ei ddatblygu a throsolwg o'r holl fodiwlau.
Modiwl 1 - Cyflwyniad i ddementia
Rhoi cyflwyniad i beth yw dementia. Mae'n trafod beth sy'n digwydd i bobl â dementia a beth i'w wneud os ydych chi'n meddwl bod gan aelod o'ch teulu neu ffrind ddementia.
Modiwl 2 - Bod yn ofalwr
Canolbwyntio ar faterion yn ymwneud â gwella cyfathrebu a chynnwys eraill wrth helpu i ofalu am y person sy'n byw gyda dementia.
Modiwl 3 - Gofalu amdanaf i
Ei nod yw lleihau straen y person ifanc trwy helpu nhw i feddwl am bwysigrwydd dod o hyd i amser a chael help fel y gall wneud y pethau maent yn ei hoffi.
Modiwl 4 - Darparu gofal bob dydd
Canolbwyntio ar fwyta ac yfed, gan gynnwys creu amseroedd bwyd mwy dymunol. Mae hefyd yn trafod materion yn ymwneud ag atal problemau iechyd, defnyddio'r toiled a gofal ymataliaeth, a gofal personol.
Modiwl 5 - Delio â newyddiadau mewn ymddygiad
Yn rhoi cyflwyniad i symptomau cyffredin a newidiadau mewn ymddygiad a allai fod yn drallodus ac yn ofidus i'r person â dementia ac i aelodau'r teulu, gan gynnwys aelodau ifanc. Mae'r symptomau hyn yn cynnwys colli cof, iselder, gorbryder, difaterwch, anhawster cysgu, rhithdybiau a rhithweledigaethau ymhlith eraill.